Math o gyfrwng | math o adeilad |
---|---|
Math | castell |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Castell wedi ei wneud o domen o bridd gydag amddiffynfa bren o'i gwmpas yw castell mwnt a beili (a elwir hefyd yn gastell tomen a beili). Mae'n ddull o adeiladu amddiffynfa a ddaeth yn boblogaidd yng ngwledydd Prydain yn ail hanner yr 11eg ganrif gyda dyfodiad y Normaniaid. Ceir rhai cannoedd o enghreifftiau o gestyll mwnt a beili yng Nghymru, Lloegr, de'r Alban a rhannau o Iwerddon. Maent yn arbennig o niferus ar hyd y Gororau a'r Mers, sef cadarnle'r barwniaid Normanaidd rhwng Cymru a Lloegr. Tyfodd rhai o'r caerau hyn i fod yn gestyll cerrig mawr tra arhosodd eraill yn domennydd pridd ar ôl cael eu defnyddio dros dro. Yng Nghymru mabwysiadwyd y dull newydd gan rai o dywysogion Cymru am gyfnod. Yr enw Cymraeg Canol am y math hwn o gastell oedd tomen ('tump' ar y Gororau).[1]